Rhestru yn ôl ardal: Ceredigion a Bae Ceredigion If you are unable to see the map here please make sure that you have Javascript enabled in your browser. (It may take a few seconds to load)
|
Pori'r cyfeiriadur:
1 Blaencamel FarmOrganic producer: Farm gate sales: Farm trailsDangos mwy o fanylionCuddio manylionLleolir ein fferm fendigedig yn Nyffryn Aeron, pedair milltir o arfordir Bae Ceredigion. Dilynwch ein harwyddion Siop Organig arbennig o’r A482 yng Nghiliau Aeron. Dewch i ymweld â ni er mwyn prynu amrywiaeth eang o saladau a llysiau tymhorol, organig; crwydrwch hyd ein llwybrau fferm 2 Broniwan Farm GuesthouseOrganic producer: Accommodation: Farm trailsDangos mwy o fanylionCuddio manylionGwesty bach ar fferm organig fach, ddeng munud o daith o arfordir treftadaeth Ceredigion. Rydym yn defnyddio cig eidion Aberdeen Angus, wyau, ffrwythau meddal a llysiau o’r fferm ei hun mewn prydau o fwyd blasus wedi’u coginio gartref. Ceir tair ystafell wely gyfforddus, sy’n cynnig golygfeydd dros yr ardd, doldir, pyllau ac ardaloedd cadwraeth bywyd gwyllt. 3 Cambrian OrganicsOrganic producer: Local deliveries:Dangos mwy o fanylionCuddio manylionCig a dofednod organig o ansawdd rhagorol, yn uniongyrchol o fferm y teulu i stepen eich drws. Bacwn, selsig a byrgers gourmet. Gwasanaeth danfon i’r drws yn lleol neu negesydd dros nos 4 Caws CenarthOrganic producer: Café: Farm Gate Sales:Dangos mwy o fanylionCuddio manylionCroeso i unigolion a theuluoedd ddod i wylio caws arobryn Cenarth yn cael ei wneud – caws sy’n cael ei werthu yn Harrods a siopau eraill o fri. Cynigir cyfle i flasu sawl caws yn ein siop. Mae Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Charles wedi ymweld â ni. Caffi llysieuol tymhorol sy’n gweini bwyd cartref sydd wedi’i wneud â chynhyrchion lleol ac organig. 5 Harbourmaster HotelAccommodation: Restaurant: LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionRydym yn cynnig ystafelloedd, bwyd a diod mewn adeilad Sioraidd Graddfa II cofrestredig sy’n tra-arglwyddiaethu dros harbwr hyfryd Aberaeron. Ein hamcan yw gweini’r cynnyrch lleol, tymhorol gorau gyda llawer iawn o’n llysiau’n tarddu o gynhyrchwyr organig, i gyd wedi’u paratoi ar gyfer y bwyty amser cinio ac yn yr hwyr ac i’r fwydlen fwrdd du wrth y bar 6 Hillscape Walking HolidaysAccommodation: Self-guided walking holidaysDangos mwy o fanylionCuddio manylionLleoliad a theithiau cerdded delfrydol, tangnefeddus sy’n cychwyn wrth y t?. Defnyddir cynnyrch cartref ac organig lleol yn helaeth yn ein holl arlwyo. Awyrgylch cyfeillgar, d?r wedi’i wresogi trwy ddulliau solar. Achrediad y Ddraig Werdd. Dewis o 40 o deithiau cerdded arfordirol, cefn gwlad ac ar y bryniau sy’n addas i bob gallu. Darperir teithiau hunandywysedig i westeion. 7 Hive on the QuayCafé/Restaurant; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae caffi prysur tymhorol Hive on the Quay ar y cei’n arbenigo mewn saladau bwyd môr lleol, chowders, crempogau sawrus, hufen iâ mêl a ffrwythau gwefreiddiol a pheth wmbredd o fwyta al fresco. Rydym yn gweini gwinoedd, cwrw a seidr organig a gallwn arlwyo ar gyfer priodasau, cyfarfodydd a phartïon bychain drwy gydol y flwyddyn. Siop Bysgod ger y caffi. 8 Llwynhelyg Farm ShopShopDangos mwy o fanylionCuddio manylionSiop fferm arobryn sy’n arbenigo mewn bwyd a diodydd Cymreig a gynhyrchir yn lleol ac ar raddfa fach.Amrywiaeth eang o nwyddau, gan gynnwys ffrwythau a llysiau organig, cawsiau Cymreig, bacwn hallt wedi’i sychu a selsig, teisennau cartref, bwydydd sawrus a llawer mwy! Adwerthwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwir Flas ar Gymru 2006-07. 9 Nantclyd OrganicsOrganic producer; Farm gate sales; Farm trailDangos mwy o fanylionCuddio manylionFferm organig fach sy’n cynnig wyau ieir a llysiau tymhorol. Ffrwythau meddal ar gael yn ystod yr haf a’r hydref, hefyd ceulad lemon cartref. Diadell o ddefaid Poll Dorset. Gwerthu wyau, llysiau a mefus wrth lidiart y fferm. Cynnyrch yn cael ei ddanfon o fewn 10 milltir o amgylch 10 New Quay Honey FarmSmall producer; Farm gate sales; caféDangos mwy o fanylionCuddio manylionFferm fêl weithredol sydd â phum cant o gychod gwenyn wedi’u lleoli ledled Ceredigion, sy’n cynhyrchu peth o’r mêl gorau sydd ar gael. Mae mêl, cynhyrchion mêl, c?yr gwenyn a medd ar gael yn y siop a hefyd ceir arddangosfa gwenyn a morgrug byw. Bydd ein caffi’n defnyddio cymaint o gynnyrch lleol ac organig ag y bo modd 11 Penbeili Mawr Farm CottagesOrganic producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae tri bwthyn ar fferm organig, yn agos i draeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhenbryn rhwng Castellnewydd Emlyn a Llandysul, wedi’u haddasu yn gydnaws gyda thrawstiau a waliau cerrig noeth, sy’n cynnig llety helaeth, cyfforddus â phob cyfleuster. Mae Penbeili hefyd yn cynnwys Gwyliau Marchogaeth arbennig er mwyn mwynhau cefn gwlad Cymru. 12 Penlon Cottage BrewerySmall producer; Food fairsDangos mwy o fanylionCuddio manylionDetholiad o gwrw cyflyredig mewn poteli gwaith llaw, wedi’u bragu heb ddefnyddio cemegau modern. Mae ein holl gwrw’n addas i feganiaid. Cynhyrchwyr cwrw arobryn Gwir Flas ar Gymru gan gynnwys yr Aur a’r Efydd. Ar gael trwy’r we a mannau adwerthu lleol, delîs safonol, siopau fferm a ffeiriau bwyd ledled Cymru. 13 Toloja OrchardsSmall producer; Farmers markets; Farm gate salesDangos mwy o fanylionCuddio manylionSeidr, sudd afal a pheri traddodiadol Cymru. Yr holl ffrwyth yn cael ei bigo â llaw, heb ei chwistrellu ac yn rhydd o ychwanegolion. Gwerthu o siop fferm ynghyd â chynhyrchion seiliedig ar afalau (alcohol trwy drefniant) 2 filltir oddi ar y B4339 o Lambed i Aberaeron ac mewn gwahanol ffeiriau bwyd a marchnad y ffermwyr Aberystwyth a thrwy’r post 14 Treberfedd FarmOrganic producer; Accommodation; Farm trailDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae gennym bedwar bwthyn gwyliau hardd ar fferm organig Treberfedd ynghyd â choetir llydanddail a llwybr natur. Yn ddelfrydol i barau, teuluoedd a grwpiau hyd at 27 o bobl. Cig eidion, oen, porc ac wyau ar gael yn dymhorol.Golygfeydd diguro, gweithgareddau i blant – 20 munud o Lambed, y Ceinewydd ac Aberaeron 15 TreehouseFood shop; Café/restaurant; Licensed; Box schemeDangos mwy o fanylionCuddio manylionHoff siop Aberystwyth i bawb sydd eisiau cynnyrch organig, lleol a rhanbarthol sy’n stocio amrywiaeth eang o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol, cig a chaws Cymru, cwrw a gwin Cymru. Ceir caffi/bwyty byrlymus i fyny grisiau sy’n gweini bwydlen sy’n newid o hyd gan ddefnyddio cynhwysion o’r siop. 16 Ty Mawr Mansion Country HouseAccommodation: Restaurant: LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionGwesty gwledig mewn plasty Graddfa II cofrestredig wedi’i adfer yn arbennig, sy’n cynnig awyrgylch y plasty ar ei newydd wedd – yn gyfeillgar, heb fod yn ddiflas drymaidd, ac ym ymlaciol mewn lleoliad tawel a thangnefeddus. Rydym yn defnyddio 90% cynnyrch lleol, yn organig lle bo modd yn ein bwyty rhoséd 2AA. Byddwn yn newid ein bwydlen bob 4-6 wythnos er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio cynnyrch tymhorol lleol yn unig.
Trwyddedir yr holl gynhyrchwyr organig gydag un o'r cyrff organig. Fodd bynnag, ni all Canolfan Organig Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw honiadau a wneir ynglˆyn ag ansawdd y cynnyrch neu'r nwyddau sydd ar gynnig. Yn gywir wrth gyhoeddi, nid yw'n rhestr gynhwysfawr o allfeydd.
|