Rhestru yn ôl ardal: Y Canolbarth a Bannau Brycheiniog If you are unable to see the map here please make sure that you have Javascript enabled in your browser. (It may take a few seconds to load)
|
Pori'r cyfeiriadur:
1 Aberhyddnant Farm CottagesOrganic Producer; Accommodation; Farm gate sales; Local deliveries; Farm trailsDangos mwy o fanylionCuddio manylionBythynnod cyfforddus hunanddarparol â phob cyfleuster ar fferm fynydd organig weithredol ym Mannau Brycheiniog. Chwaraefa, mynydd a chefn gwlad i’w crwydro gyda bywyd gwyllt toreithiog. Cig eidion, oen, porc ac wyau organig ar gael a gellir eu danfon i rywun sy’n aros yn y Parc Cenedlaethol. Byddwn yn cyflenwi’r siop fferm leol, cynllun blychau a bwyty 2 Bacheldre WatermillOrganic producer; Accommodation: Farm gate salesDangos mwy o fanylionCuddio manylionBythynnod hunanddarparol a maes carafannau/pebyll yn nhiroedd melin dd?r weithredol o’r ddeunawfed ganrif. Wedi’i lleoli ym mryniau ymdonnog a chefn gwlad hyfryd y Gororau ar y ffin rhwng Powys a Swydd Amwythig, mae Melin Dd?r Bacheldre yn gyrchfan wyliau wych lle y gellir ymlacio neu fwynhau holl gyfleusterau hamdden yr ardal 3 Blasau DelicatessenShopDangos mwy o fanylionCuddio manylionCynnyrch organig a lleol gan gynnwys caws, cig, wyau a llysiau. Cynnyrch organig o fferm Bron-y-Gan. 4 Carlton RiversideRestaurant; Accommodation; LicencedDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae’r bwyty gwych hwn ynghyd ag ystafelloedd wedi symud yn ddiweddar i adeiladau helaethach yn edrych dros afon Irfon. Yn cael ei redeg gan Mary Anne Gilchrist a enwebwyd fel un o brif gogyddesau Cymru, mae’r bwyty’n arbenigo mewn cynnyrch lleol o ansawdd, gyda’r gwesteion yn mwynhau llety en suite mewn ystafelloedd hynod gyfforddus. 5 Castlering Organic Woodland PorkOrganic Producer; Farm gates sales; Farmers marketsDangos mwy o fanylionCuddio manylionMoch saddleback yn rhydd i grwydro mewn padogau sydd wedi’u ffensio’n electronig i safonau organig mewn coetiroedd llydanddail. Bacwn hallt wedi’i sychu, gamon, porc a selsig traddodiadol yn cael eu gwerthu o’r fferm ac ym marchnad y ffermwyr yn ne Cymru, y Bont Faen, Abertawe a Chaerdydd 6 Cwmllechwedd FawrOrganic producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionFferm dda byw organig yng nghraidd canolbarth Cymru sy’n cynnig gwely a brecwast mewn llety en suite safonol. Prydau o fwyd gyda’r nos ar gael sy’n defnyddio llysiau cartref a chynnyrch o ffynonellau lleol. Cefn gwlad bendigedig ar gyfer cerdded. 7 Elan Valley MuttonOrganic Producer; Farmers' markets; Box schemesDangos mwy o fanylionCuddio manylionCig dafad organig blasus dros ben o ddefaid mynydd Cymreig 2-3 blwydd oed sydd wedi’u magu ar ein fferm fynydd draddodiadol. Gweler ein gwefan am restr gyflawn o ddigwyddiadau y byddwn yn eu mynychu neu ffoniwch Angela am fwy o wybodaeth. Basgedi cig dafad hefyd ar gael – eu danfon yn ddi-dâl yn ardal Llandrindod/Rhaeadr Gwy, fel arall gwasanaeth negesydd 24 awr. 8 Felin Fach Griffin InnRestaurant; Accommodation; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionBwyty a thafarn ynghyd ag ystafelloedd a leolir rhwng Aberhonddu a’r Gelli Gandryll. Ein hethos yw ei chadw hi mor syml ag y bo modd. Mae popeth y byddwn yn ei brynu’n cael ei gynhyrchu’n lleol ac erbyn hyn rydym wedi dechrau tyfu ein llysiau organig ein hunain. Mae pob un o’r saith ystafell wely sydd gennym wedi’u cynllunio’n unigol i fod yn hollol wahanol i’r gwesty mawr amhersonol. 9 Graig Farm ProduceMail orderDangos mwy o fanylionCuddio manylionAmrywiaeth eang o gynnyrch organig, gan gynnwys cig (amrwd neu wedi’i goginio), pysgod, prydau o fwyd parod, cynnyrch llaeth, groseri, bwyd babanod, popty, alcohol a siop lysiau trwy wasanaeth post arobryn, adwerthwyr annibynnol ledled y DU, a thrwy gasglu o’r fferm 10 Lasswade Country House Hotel and RestaurantRestaurant; Accommodation; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionGwesty a th? bwyta yw Lasswade sy’n bleidiol i’r organig, sy’n defnyddio cynnyrch ffres, organig gan mwyaf, ac sydd wedi’i gymeradwyo gan y Good Food Guide. Yn llysgenhadon bwyd i Ganolbarth Cymru, rydym yn hyrwyddo marchnad y ffermwyr a chyflenwyr lleol. Yn agored drwy’r flwyddyn, gyda golygfeydd syrfdanol. Ystafelloedd en suite ac adeilad eco-gyfeillgar. Rydym yn croesawu’r rheini sydd ag anghenion diet arbennig 11 Nant-y-nodyn CottagesOrganic producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionLleolir pedwar bwthyn hunanddarparol Nant-y-nodyn ar fferm organig yn rhan uchaf Dyffryn Dyfi ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ardal yn cynnig cyfleoedd gwych i gerdded, seiclo, adarydda gyda hanner awr o daith yn unig yn y car yn mynd â chi i’r arfordir. Mae gan yr holl fythynnod erddi preifat a digon o barcio. 12 OakviewOrganic producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae Oakview yn ysgubor sydd wedi’i thrawsnewid yn ddwy fflat hunangynhaliol a chwaethus ar fferm deulu organig, sy’n cynnig golygfeydd godidog dros Ddyffryn Gwysg. Wedi’i lleoli hanner milltir o dref hanesyddol Crucywel, mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer cerdded, seiclo a moduro ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 13 Penpont EstateOrganic producer; Accommodation; Historic house and landscapeDangos mwy o fanylionCuddio manylionPenpont yw un o’r tai gorau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae adain orllewinol y plasty Graddfa 1 yn gallu cynnig lle i 17 o bobl mewn llety hunanddarparol cyfforddus. Fe’i gwresogir gan foeler modern sy’n llosgi naddion coed. Tyfir ffrwythau a llysiau organig yn y gerddi muriog a’u gwerthu’n lleol. 14 Quarry CaféCaféDangos mwy o fanylionCuddio manylionCaffi cyfanfwyd llysieuol lle y byddwn yn defnyddio cynnyrch organig cymaint ag y bo modd. Byddwn hefyd yn ceisio gwneud yn si?r fod ein cyflenwadau’n cael eu masnachu’n deg, er enghraifft, daw ein coffi o ffa a dyfir yn fforestydd glaw Periw. 15 Trericket Mill Vegetarian GuesthouseAccommodation; Restaurant; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionMelin ?d Graddfa 11 gofrestredig sy’n edrych dros afon Gwy gan gynnig amrywiaeth o lety anffurfiol – Gwely a Brecwast yn y gwesty bach, byncws clyd traddodiadol a gwersyllfa fechan a leolir yn yr hen berllan seidr. Byddwn yn defnyddio cynnyrch organig, penrhydd a lleol lle bynnag bo modd ac, wrth gwrs, d?r heb gemegau o’n ffynnon breifat. 16 Wynnstay HotelAccommodation; Restaurant; LicencedDangos mwy o fanylionCuddio manylionHen dafarn wasgarog a chlên y Goets Fawr wedi’i lleoli ar odre ddeheuol Eryri, yn ddelfrydol i ymwelwyr â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, cerdded, seiclo ac yn y blaen. Mae’r fwydlen wedi’i seilio’n gadarn ar gynnyrch lleol, organig lle bo modd, ac rydym wedi ymrwymo i foeseg Bwyd Araf sef ‘Da, Glân a Theg’.
Trwyddedir yr holl gynhyrchwyr organig gydag un o'r cyrff organig. Fodd bynnag, ni all Canolfan Organig Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw honiadau a wneir ynglˆyn ag ansawdd y cynnyrch neu'r nwyddau sydd ar gynnig. Yn gywir wrth gyhoeddi, nid yw'n rhestr gynhwysfawr o allfeydd.
|