Rhestru yn ôl ardal: Eryri - Mynyddoedd ac Arfordir If you are unable to see the map here please make sure that you have Javascript enabled in your browser. (It may take a few seconds to load)
|
Pori'r cyfeiriadur:
1 Blaen y NantOrganic producer; Farm trailsDangos mwy o fanylionCuddio manylionFferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Blaen-y-Nant a leolir wrth graidd Nant Ffrancon gyda thir mynydd yn ymestyn o Lyn Ogwen a llethrau Tryfan a’r Glyder Fach. Cynnyrch organig ar gael weithiau. Gall ymwelwyr gerdded ar hyd llwybr y fferm a gellir hefyd trefnu ymweliadau addysgol. 2 Blas ar FwydShop; Restaurant; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionDelicatessen, siop win a bwyty sy’n gwerthu bwyd a diodydd Cymreig ac organig. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon trwy ogledd a chanolbarth Cymru. 3 Bryn Elltyd Guest HouseAccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionUn o brif westai bach eco-gyfeillgar Cymru mewn lleoliad mynyddig gwych yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn darparu awyrgylch cynnes a chlên mewn adeilad ecolegol a chynaliadwy lle y gall gwesteion fwynhau gwyliau ymlaciol sy’n cael effaith gyfyngedig ar yr amgylchedd. 4 Cysgod y GarnOrganic producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionFfermdy gwledig wedi’i amgylchynu gan olygfeydd ysblennydd dros dir amaeth organig o fewn taith gar fer o Lyn Tegid gyda gardd a phatio hardd. Ystafelloedd helaeth cyfforddus gydag en suite, balconi, jacuzzi a gwely enfawr. Tân agored sy’n cyfuno rhamant ddoe â chysuron heddiw. efnyddir cynnyrch organig lle y mae’n bosibl. Lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau byr neu hir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 5 Llangybi OrganicsOrganic producer; Accommodation; Box schemeDangos mwy o fanylionCuddio manylionDewch i aros mewn eco-fwythyn hyfryd, tangnefeddus hunanddarparol ar ein fferm fechan rhwng traethau hardd Pen Ll?n ac Eryri. Ynysu gwlân defaid, gwresogi o dan y llawr gan ddefnyddio trydan gwyrdd ynghyd â llosgwr logiau i sicrhau arhosiad clyd drwy gydol y flwyddyn. Mwynhewch ein cynllun blychau sy’n cynnig llysiau a ffrwythau tymhorol i westeion a chwsmeriaid lleol. 6 Maes-y-Neuadd HotelAccommodation; Restaurant; Licensed; Produce sales; Woodland walksDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae gan ein gwesty teulu yn Eryri olygfeydd diguro dros y mynyddoedd a Bae Ceredigion. Rydym yn cynnig llety safonol en suite gyda gwasanaeth gofalgar, cyfeillgar ac mae ein bwyty arobryn yn defnyddio cynnyrch lleol ffres yn unig, llawer ohono’n cael ei dyfu yn yr 80 erw o dir sydd gennym. 7 Organic Aran LambOrganic Producer; Farm gate sales; Farmers' marketsDangos mwy o fanylionCuddio manylionCig oen a dafad fynydd arobryn a brosesir ar y fferm. Ar gael ym marchnadoedd y ffermwyr Machynlleth, Llanfyllin a Dolgellau, gwerthu ar y we, archebu trwy’r post ac wrth lidiart y fferm. Uned Brosesu Cig ar y safle. 8 Pentre Bach Holiday CottagesSmall producer; AccommodationDangos mwy o fanylionCuddio manylionBythynnod gwyliau eco-gyfeillgar, hunanddarparol, dau ohonynt yn cynnig golygfeydd gwych dros y môr, dau â lle tân agored yn ne Eryri. Enillwyd Gwobr Amgylchedd Cymru am Dwristiaeth Gynaliadwy 2003. Llysiau a ffrwythau wedi’u tyfu o’n compost ein hunain ar gael ynghyd â phrydau o fwyd cartref o’r rhewgell. 9 Plas Tan yr AlltAccommodation; Restaurant; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionMae plas hanesyddol ac ysbrydoledig Tan yr Allt wedi'i hadnewyddu'n llwyr i ddarparu llety coeth en suite i westeion. Yn ô y Daily Telegraph: "Mae enghraifft o arddull y plasty gwledig cyfoes". Bydd y gwesteion yn bwyta â'i gilydd bob nos gyda bwyd a baratowyd gan y perchennog/cogydd, Nick Golding, sy'n chwilio am y gorau o ran cynnyrch lleol, 10 Rhug Organic FarmOrganic Producer; Farm shop; Café; Farm trailsDangos mwy o fanylionCuddio manylionWedi’i lleoli ar yr A5. mae Ystad y Rug yn cynhyrchu’i chig oen, eidion porc a chyw iâr ei hun sy’n cael eu cynnwys yn y dysglau sydd ar gael yn y caffi, sydd, ynghyd â siop y fferm, yn agored saith diwrnod yr wythnos. Yn ystod misoedd yr haf, cynhelir teithiau cerdded ar y fferm yn ddyddiol a marchnad y ffermwyr. 11 Tremeifion Vegetarian HotelAccommodation; Restaurant; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionGwesty sy’n darparu bwyd llysieuol/fegan yn unig yw Tremeifion ac rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cynnig bwyd cartref o safon dda, gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau organig, llawer ohonynt yn dod o’n gardd organig ein hunain. Rydym yn cynnig i’n gwesteion ddewis o 4 ystafell wely en suite gyfforddus. 12 Tyddyn Llan Restaurant with RoomsRestaurant; Accommodation; LicensedDangos mwy o fanylionCuddio manylionT? Sioraidd gosgeiddig yw Tyddyn Llan yn nyffryn Edeirnion. Canolbwynt Tyddyn Llan yw’r bwyty lle y byddwn yn cael y cynhwysion gorau’n ddyddiol o gyflenwyr lleol. Mae gennym 12 llofft ynghyd â swit ar y llawr gwaelod. Dewch i fwynhau cerdded, chwaraeon d?r, golffio a beicio mynydd.
Trwyddedir yr holl gynhyrchwyr organig gydag un o'r cyrff organig. Fodd bynnag, ni all Canolfan Organig Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw honiadau a wneir ynglˆyn ag ansawdd y cynnyrch neu'r nwyddau sydd ar gynnig. Yn gywir wrth gyhoeddi, nid yw'n rhestr gynhwysfawr o allfeydd.
|