Lle i aros a Lle i fwyta - Arweinlyfr i ffermydd organig, bwyd dilys a llety o safon dda yng nghanolbarth a De Orllewin Cymru
Mae'r arweinlyfr hwn yn dwyn at ei gilydd cynhyrchwyr organig
sy'n cynnig amrywiaeth eang o lety ar y fferm, ffermwyr a thyfwyr sy'n gwerthu o lidiart y fferm a marchnadoedd y ffermwyr, a ffermydd organig lle y croesewir ymwelwyr i wylio bwyd yn cael ei brosesu neu i fwynhau taith gerdded ar hyd llwybr fferm. Mae'r holl ffermydd yn y llyfr â thrwydded organig ac mae'r llety wedi'i gofrestru â'r byrddau croeso. Mae'r gwestyau, bwytai a'r chaffis yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio cynnyrch sy'n lleol, yn ffres, yn ddilys ac yn aml yn organig.Y siroedd sy'n ffurfio canolbarth a de-orllewin Cymru sy'n cael eu cynnwys yn yr arweinlyfr. Maent yn cynnig tirwedd gyfoethog ac amrywiol lle mae llawer iawn o gynhyrchwyr wedi mabwysiadu ffermio organig neu gynhyrchu arbenigol.
Mae arfordir Ceredigion yn cynnig llawer iawn o draethau hardd, sawl harbwr naturiol a physgota am gimychiaid, crancod a bwyd môr arall. Mae sir Powys yn dwyn at ei gilydd dair hen sir, Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog gan gynnig miloedd o erwau o borfeydd ucheldirol yn yr haf. Wrth deithio'r ardal hon ym 1862, barn George Borrow am y goes cig dafad gyntaf iddo flasu oedd ei bod 'yn gyfoethog ac eto'n gynnil ac yn llawn suddion
sy'n deillio o lysiau persawrus yr urddasol Ferwyn.' Mae ucheldiroedd a mynyddoedd Eryri'n anodd i'r ffermwyr, ond mae defaid a gwartheg duon Cymreig yn ffynnu arnynt yn ystod misoedd yr haf.
Bydd gan ymwelwyr â phen draw eithaf de-orllewin Cymru aml gyfle i fwynhau bwyd da yn ystod eu harhosiad. Pantri naturiol yw Sir Benfro a Sir Caerfyrddin a Gŵyr o ran amrywiaeth, ansawdd a blas ei chynnyrch. Gyda'i hinsawdd addfwyn a'i phridd ffrwythlon mae'r sir yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch rhwng llysiau ffres a ffrwythau meddal a chig eidion ac oen o'r ansawdd gorau ynghyd â chynhyrchion llaeth arobryn, ac mae llawer iawn o ffermwyr organig yn yr ardal yn gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i'r cyhoedd, naill ai trwy farchnadoedd y ffermwyr neu wrth giât y fferm. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro'n cynnwys y glannau ar eu hyd a gwelir bwyd y môr sydd wedi'i ddal yn lleol ar lawer o fwydlenni ym mhob un o'r bwytai gorau.
Mae tymor y twristiaid yn darparu gwir gyfle i'r cynhyrchwyr hynny sydd â chynnyrch tymhorol ac arbenigol i'w gynnig. Gall ymwelwyr gael hyd i amrywiaeth eang o gigoedd, cawsiau, llysiau a chynhyrchion organig ac arbenigol eraill. Mae'r cyngor lleol yn ei gwneud yn haws i ymwelwyr gael bwyd o ffynonellau lleol gyda phwyslais ar farchnadoedd y ffermwyr, ffeiriau bwyd a digwyddiadau lleol fel yr Wythnos Bysgod Leol a gynhelir yn Sir Benfro ym mis Mehefin a gall nod cynnyrch lleol helpu i adnabod llefydd sy'n gweini neu'n gwerthu cynnyrch lleol, neu gynhyrchion a wneir yn y sir. Nid yn unig bod bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad economaidd y sir, ond mae hefyd yn helpu i sefydlu'r cysylltiad rhwng y ffermwr a'r ymwelydd.Bu llawer iawn o'r rheini sydd wedi'u cofnodi yn yr Arweinlyfr hwn yn enillwyr yn y Gwobrau Gwir Flas, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n cydnabod y swyddogaeth bwysig sydd gan fwyd i'w chwarae yn yr economi Gymreig.
Trwyddedir yr holl gynhyrchwyr organig gydag un o'r cyrff organig. Fodd bynnag, ni all Canolfan Organig Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw honiadau a wneir ynglˆyn ag ansawdd y cynnyrch neu'r nwyddau sydd ar gynnig. Yn gywir adeg cyhoeddiad, nid yw'n rhestr gynhwysfawr o allfeydd.

